Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


Tirwedd Hanesyddol o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Gwastadeddau Gwent yng Nghymru, fel y cyfeiriwyd ati yn Rhan 2:1 y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru, 1998. Mae'r ardal (Cyfeirnod HLW(Gt)2) yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent (amrywiol) ac Ardal Gadwraeth Redwick.

Mae Tirwedd Hanesyddol Eithriadol Gwastadeddau Gwent yn cynnwys tair ardal helaeth ac ar wahân o wlyptiroedd llifwaddodol a fflatiau llaid rhynglanw ar ochr ogleddol moryd afon Hafren a hon yw'r enghraifft ehangaf a mwyaf arwyddocaol o dirwedd 'a grefftwyd â llaw' yng Nghymru. Gwaith dyn ydynt oll, wedi'u boddi a'u hadfer o'r môr bob yn ail ers y cyfnod Rhufeinig. Mae i'r ardaloedd batrymau aneddiadau, systemau cau a draenio tir nodweddiadol sy'n perthyn i gyfnodau defnydd olynol. Profwyd bod cryn bosibilrwydd o ddarganfod gwaddodion archeolegol a phaleoamgylcheddol dwrllawn sydd wedi'u claddu a'u cadw'n dda fel tystiolaeth sy'n goroesi o dirweddau cynharach.



Cliciwch ar yr ardal am wybodaeth pellach


Gwastadeddau Gwent oedd yr ardal gyntaf y ceisiwyd gwneud astudiaeth nodweddu ohoni. Fe'i gwnaed ar ran Cadw gan Dr Stephen Rippon (o Brifysgol Caerwysg bellach) yn 1995. Roedd Dr Rippon yn gallu rhannu'r hyn sy'n dirwedd unffurf a gwastad, i bob golwg, yn 21 o ardaloedd penodol. Erys ffiniau'r ardaloedd cymeriad a'r rhesymau dros eu natur unigryw yn ddigyfnewid. Fodd bynnag mae disgrifiadau manwl wedi cael eu golygu er mwyn sicrhau eu bod ar ffurf debyg, cyn belled â phosibl, i'r disgrifiadau manwl o ardaloedd cymeriad ar gyfer tirweddau eraill a gofnodwyd yn y Gofrestr yn ddiweddarach. Gwnaethpwyd hyn er mwyn sicrhau na chaiff y wybodaeth yn y ddogfen wreiddiol ei newid. Gan yr ystyrir y dirwedd hanesyddol yn un amaethyddol yn bennaf gyda mân aneddiadau, yn lle yr adran arferol ar themâu tirwedd, rhoddir gwybodaeth am ddatblygiad tirwedd, gyda phwyslais arbennig ar reoli dwr a draenio.

Mae'r disgrifiad canlynol, a ddyfynnir o'r Gofrestr o Dirweddau Hanesyddol, yn nodi themâu tirwedd hanesyddol hanfodol yn yr ardal gymeriad hanesyddol.

Ardal isel, helaeth o lifwaddod moryd ar ochr ogleddol Moryd Hafren yn Ne-ddwyrain Cymru yw Gwastadeddau Gwent, rhwng Caerdydd ac Afon Rhymni yn y gorllewin a Chas-gwent ar Afon Gwy yn y dwyrain. O ran topograffeg, cymerir bod y gwastadeddau yn ymestyn i'r de o'r gyfuchlin 10m, sef ymyl y ffen, neu lle mae'n cyffwrdd â chraig solet i'r gogledd (sy'n cyd?fynd yn fras â llinell fodern y rheilffordd o'r dwyrain i'r gorllewin rhwng Llundain a Chaerdydd), One am eu bod yn gogwyddo tua'r gogledd oddi wrth y môr maent fel rheol ar eu hisaf lle maent yn ffinio â chraig solet.

Mae'r Gwastadeddau yn dirwedd gydag adnoddau cudd amgylcheddol ac archeolegol eithriadol ac amrywiol. Er eu bod yn adnodd gwlyptir pwysig ynddynt eu hunain, yn archeolegol mae'r ardal yn cynnwys amrywiaeth o dirweddau o wahanol ddyddiadau, ac nid oes unman arall lle mae modd gwahaniaethu mor hawdd rhwng y gwahanol gyfnodau.

Rheolwyd gweithgareddau dyn yn yr ardal yn y gorffennol gan amrediad llanw enfawr ym moryd Hafren, a welodd amrywiadau mawr a mân o ran uchder ac amrediad y llanw ers y rhewlifiant diwethaf; achoswyd hyn gan amrywiadau yn lefel y tir a'r môr fel ei gilydd. Mae'r gwastadeddau yn adlewyrchu perthynas dyn â'r amgylchiadau hyn dros y deng mil o flynyddoedd a aeth heibio, perthynas a ddatblygodd ond a fu'n aml yn un fregus iawn.

Adferwyd wyneb presennol y tir o'r môr ar wahanol adegau yn ystod y cyfnod hanesyddol, fel ei bod bellach yn enghraifft wych o dirwedd 'a grefftwyd â llaw', wedi'i greu'n artiffisial ac yn waith dyn drwyddo draw, gan gadw tystiolaeth glir o batrymau aneddiadau, a systemau cau a draenio tir. Fodd bynnag, oherwydd y cyfnodau cylchol o foddi a llifwaddoli, mae'n dra thebygol hefyd bod yna ddefnydd archeolegol ac amgylcheddol dwrllawn o bwys sy'n perthyn i dirweddau cynharach wedi'i gladdu, gan gynnwys yr ardal o fflatiau llaid llanw y tu hwnt i'r morgloddiau. Felly mae'r Gwastadeddau yn adnodd archeolegol a hanesyddol unigryw o gyfoethog yng Nghymru, ac yn sicr mae iddynt bwysigrwydd ac arwyddocâd rhyngwladol.

Y gweithgaredd dynol a gafodd fwyaf o effaith ar dirwedd y gwlyptir fu'r penderfyniad a'r llwyddiant i adfer y gwastadeddau o'r môr, a fu'n digwydd ers y cyfnod Rhufeinig o leiaf. Er bod i'r ardal ddraeniad naturiol, sef yn bennaf Afon Wysg gyda'i moryd llanw eang, Afon Rhymni ac Afon Ebwy, a nant Allteuryn, cafwyd cynlluniau draenio artiffisial ar y rhan fwyaf o'r gwastadeddau, fel bod yr ardal heddiw yn rhwydwaith o sianeli draenio, ffosydd draenio a elwir yn lleol yn 'reens'. Er hynny, erys rhai elfennau o'r rhwydweithiau draenio hyn wedi'u hymgorffori o fewn rhai o'r rhwydweithiau draenio artiffisial i mewn i'r tir o'r morgloddiau, tra rhoddwyd y gorau i elfennau eraill naill ai ar adeg adfer y tir neu'n fwy diweddar. Mae paleosianelau yn arwyddion o hen systemau draenio nas defnyddir bellach, y gellir gweld rhai ohonynt yn glir ar luniau o'r awyr.

Ceir y canlynol, felly, yn y dirwedd fel y mae ar hyn o bryd: prif ffosydd sy'n ganlyniad i ddyfrffosydd naturiol; prif ffosydd sy'n hollol artiffisial: morgloddiau yn y mewndir y rhoddwyd y gorau iddynt, ac nad oes sicrwydd ynglyˆ n â'u tarddiad; morgloddiau sydd, mae'n debyg, yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg yn wreiddiol; argaeau lle mae'r ffosydd yn cyfarfod â seiliau tanddwr lle maent yn croesi; mannau lle mae'r prif ffosydd yn llifo naill ai i sianeli'r llanw neu i'r foryd ei hun; y pontydd ar draws y ffosydd a'r ffyrdd a adeiladwyd ar yr argloddiau; a heb anghofio patrymau amlwg a nodweddiadol y caeau sy'n perthyn i wahanol gyfnodau o gau'r tir.

O ran y dirwedd archeolegol gladdedig, darganfuwyd olion Mesolithig yn Allteuryn, yn gorwedd yn haenau clai'r foryd o dan olyniaeth o waddodion mawn. Hefyd, cafwyd olion traed dynol o'r cyfnod Mesolithig diweddar wedi'u gwasgu i'r Ffurfiant Gwenllwˆ g isaf yn Aber-wysg. Unwaith eto, cael eu cadw yng nghlai'r foryd, dan haen o glai oedd eu hanes. Rhesymol yw tybio y ceir mwy o dystiolaeth bwysig o weithgaredd Mesolithig yn nes i mewn i'r tir, ac yn fwy penodol hwyrach lle mae'r gwastadeddau yn cwrdd a chraig solet tua'r gogledd.

Cofnodwyd gweithgaredd o'r Oes Efydd ar wahanol safleoedd ar welyau mawn sych a godwyd, megis yn Chapel Tump. Yn fwy diweddar, y tu allan i'r ardal a ddisgrifir yma, yng Nghastell Caldicot, ceir tystiolaeth fanwl am baleosianeli, adeiladweithiau ar sylfaeni o bolion, estyll llong a chryn dipyn o ddefnydd diwylliannol. Darganfuwyd tystiolaeth o'r Oes Haearn yn yr ardal rynglanw yn Allteuryn gydag adeiladau hirsgwar pren, sarnau a maglau pysgod ar silff o fwyn y cefnffen. Hefyd y tu allan i'r ardal ond yn agos i'r ardal, yn Fferm Barland, Chwilgrug, darganfuwyd adeiladau o gerrig a phren o'r Cyfnod Rhufeinig a chafwyd hyd i weddillion llong Frythonaidd-Rufeinig o ddiwedd y drydedd ganrif, wrth ymyl cilfach lanw wedi'i chladdu. Mae hyn oll yn arwydd clir o'r cyflwr rhyfeddol y cadwyd defnydd archeolegol yn y gwastadeddau.

Cynrychiolir y Canol Oesoedd gan nifer fawr o safleoedd Eingl-Normanaidd gan gynnwys cestyll, safleoedd ffosedig, eglwysi, melinau, maenordai a llysoedd. Ceir tystiolaeth am barhad yn y ffurfiau ar ddefnydd tir rhwng y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Caewyd mwy a mwy o gaeau yn yr ardal er bod cryn dipyn yn aros, mor ddiweddar â 1830, yn dir comin heb ei amgáu. Er bod llawer o'r rhwydwaith sylfaenol o ffosydd wedi'i sefydlu cyn y cyfnod hwn, parhawyd i'w ddatblygu a'i addasu, yn enwedig wrth i dir gael ei amgáu.

Dros y blynyddoedd diwethaf, cloddiwyd nifer o safleoedd archeolegol trawiadol ac, ers 1987, hysbyswyd yr awdurdodau o nifer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn y gwastadeddau. Mae'r dirwedd heddiw yn cynrychioli'r cyfnod archeolegol diweddaraf ac ynddi ceir y cilfachau ecolegol amrywiol y mae diddordebau cadwraeth natur yn dibynnu arnynt.


Astudiaeth o Dirwedd Hanesyddol Gwastadeddau Gwent


Ardaloedd Cymeriad ar Wastadedd Caldicot

01 ardal gymeriad ardal arfordirol yr As Fach/Allteuryn: "tirwedd afreolaidd" gymhleth yn yr ardal arfordirol uwch, yn cynnwys caeau afreolaidd bach, lonydd dolennog ac aneddiadau gwasgaredig.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 033)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

02 ardal gymeriad cefnffen Christchurch/yr As Fach/Whitson: cefnffen isel sydd â thirwedd "ganolradd" symlach.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 042)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

03 ardal gymeriad Whitson: pentref unigryw a gynlluniwyd.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 041)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

04 ardal gymeriad Porton: math "canolradd" anarferol o dirwedd gerllaw'r arfordir.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 030)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

05 ardal gymeriad pentref Redwick: yr anheddiad cnewyllol sydd wedi'i gadw yn y cyflwr gorau ar y Gwastadedd.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 013)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

06 ardal gymeriad Redwick/ Magwyr/ Gwndy: "tirwedd afreolaidd" gymhleth yn cynnwys rhai aneddiadau gwasgaredig.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 026)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

07 ardal gymeriad ardal Broadmead o Redwick: "tirwedd reolaidd" a grëwyd drwy gau caeau agored drwy ddeddf seneddol.
(Ffoto: GGAT Redwick CSmap)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

08 ardal gymeriad gogledd Redwick: tirwedd eithaf syml, yn cynnwys ystad Abaty Tyndyrn yn Grangefield.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 028)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

09 ardal gymeriad Green Moor: tirwedd syml yn ymestyn dros gefnffen Redwick/Llandyfenni/Magwyr.
(Ffoto: GGAT Wilkinson Site Exc3)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

10 ardal gymeriad Lower Grange ym Magwyr: un arall o ystadau Tyndyrn, a ddraeniwyd yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 022)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

11 ardal gymeriad Rhostir Caldicot: "tirwedd reolaidd" a grëwyd drwy gau caeau agored drwy ddeddf seneddol.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels2 021)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

12 ardal gymeriad ymyl ffen Caldicot: ardal anarferol o gaeau bach afreolaidd eu siâp gerllaw ymyl y ffen.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 006)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

13 ardal gymeriad St Pierre: tir a adferwyd o amgylch aber/dyffryn St. Pierre Pill.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels2 002)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

14 ardal gymeriad Mathern: llain fach o lifwaddod arfordirol.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels2 017)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


Crynodeb o Ardaloedd Cymeriad ar Wastadedd Gwynllwg

15 ardal gymeriad Dwyrain Llansantffraid Gwynllwg: "tirwedd afreolaidd" gymhleth yn yr ardal arfordirol uwch.
(Ffoto: GGAT St Brides CSmap)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

16 ardal gymeriad Gorllewin Llansantffraid Gwynllwg: tirwedd symlach, wedi'i gosod o fewn fframwaith o elfennau sydd wedi goroesi o'r dirwedd Rufeinig.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 100)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

 

17 ardal gymeriad Llanbedr: "tirwedd reolaidd" yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 096)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

18 ardal gymeriad Rhymni: "tirwedd afreolaidd" gymhleth â phatrwm anheddu gwasgaredig.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 050)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

19 ardal gymeriad Trowbridge: tirwedd eithaf syml yn y gefnffen isel.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 084)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

20 ardal gymeriad Maerun/Coedcernyw: tirwedd yn ymestyn dros gefnffen isel i'r gogledd o "ddraen dal dwr" bwysig..
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 093)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

21 ardal gymeriad Maerdy: "tirwedd reolaidd" yn dyddio o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol yn ymestyn dros gefnffen isel.
(Ffoto: GGAT Gwent Levels 099)
(Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
01 ardal arfordirol yr As Fach/Allteuryn 02 cefnffen Christchurch/yr As Fach/Whitson 03 Whitson 04 Porton 05 pentref Redwick 06 Redwick/Magwyr/Gwndy 07 ardal Broadmead o Redwick 08 gogledd Redwick 09 Green Moor 10 Lower Grange ym Magwyr 11 Rhostir Caldicot 12 ymyl ffen Caldicot 13 St.Pierre 14 Mathern 15 Dwyrain Llansantffraid Gwynllwg 16 Gorllewin Llansantffraid Gwynllwg 17 Llanbedr 18 Rhymni 19 Trowbridge 20 Maerun/Coedkernew 21 Maerdy Yn nôl i'r brif fap